|
Rhif y ddeiseb: P-06-1508 Teitl y ddeiseb: Cyfyngu cynghorau Cymru i gynnydd o hyd at 2% ar y dreth gyngor bob blwyddyn Geiriad y ddeiseb: Cyfyngu cynghorau Cymru i gynnydd o hyd at 2% ar y dreth gyngor bob blwyddyn, gan ddechrau ym mis Ebrill 2025. Roedd y cynnydd yn y dreth gyngor yn 2024 yn rhy uchel i bobl Cymru, ac nid yw cynyddu’r dreth gyngor uwchlaw’r gyfradd chwyddiant unwaith eto yn gynnydd teg i bobl Cymru. |
Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid a gaiff awdurdodau lleol, a hynny drwy’r Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu. Yn 2025-26, bydd awdurdodau lleol, trwy’r setliad llywodraeth leol dros dro, yn cael tua £6.1 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi dyrannu dros £1.1 biliwn ar ffurf grantiau penodol, a thros £1 biliwn ar ffurf cyllid cyfalaf.
Yr awdurdodau lleol eu hunain sy’n codi gweddill yr arian sydd ei angen ar gyfer darparu gwasanaethau lleol. Yr elfen fwyaf arwyddocaol o'r cyllid hwn yw’r dreth gyngor, ond mae nifer o ddulliau eraill o gynhyrchu incwm hefyd, fel taliadau dewisol am wasanaethau hamdden, parcio a gwastraff masnachol.
Mae awdurdodau lleol wedi ymgynghori’n ddiweddar ynghylch cynyddu eu treth gyngor ar gyfer 2025-26 i wneud iawn am rai o’r diffygion a amcangyfrifir yn eu cyllid. Yn ei thystiolaeth ysgrifenedig ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi amcangyfrif y bydd pwysau cyllido o dros £550 miliwn ar awdurdodau lleol Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf. Dangosodd CLlLC yn ei thystiolaeth y pwysau cyllidebol, fesul gwasanaeth, a wynebir gan awdurdodau lleol dros y tair blynedd nesaf:
Pwysau cyllidebol fesul gwasanaeth, 2025-26 i 2027-28, £000

Ar gyfartaledd, cynyddodd y dreth gyngor yn 2024-25 £122 (7.8%) o gymharu â'r flwyddyn flaenorol ar gyfer eiddo ym Mand D yng Nghymru. Cynyddodd praeseptau’r heddlu 7.1% (£23) ar gyfartaledd. Mae’r cynnydd cyfunol hwn wedi arwain at gynnydd o 7.7% (neu £145) ar gyfartaledd ym Mand D. Dyma’r cynnydd cyfunol uchaf yng nghyfraddau Band D ar gyfartaledd ers 2019-20 pan welwyd cynnydd o 6.6% (£99) ar gyfartaledd ar gyfer Band D.
Rhwng 2018-19 a 2024-25, mae cyfradd gyfunol Band D (y dreth gyngor a’r heddlu) ar gyfartaledd wedi cynyddu ychydig yn llai na 36%, a thros gyfnod o ddegawd (rhwng 2015-16 a 2024-25), mae wedi cynyddu dros 50%.
Ar hyn o bryd, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i gyfyngu ar gynnydd gormodol yng ngofynion cyllideb awdurdodau lleol yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, yn dweud yn ei ymateb i’r ddeiseb fod ‘Llywodraeth Cymru yn parchu ymreolaeth llywodraeth leol ac nid yw wedi ceisio capio'r dreth gyngor na'i chyfyngu yng Nghymru ers datganoli.’
Mae ymateb yr Ysgrifennydd Cabinet yn mynd rhagddo i ddweud y canlynol:
Mae Llywodraeth Cymru yn sianelu cymaint â phosibl o'r arian sydd ar gael i mewn i'r Setliad Llywodraeth Leol heb ei neilltuo, er mwyn i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd wrth ddyrannu cyllid yn unol â blaenoriaethau lleol.
Y ddeddfwriaeth berthnasol yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”).
Mae Adran 52B o Ddeddf 1992 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gymryd camau yn erbyn awdurdod lleol os ydynt o’r farn bod gofynion ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod yn ‘ormodol’.
“Gofynion y gyllideb” yw'r swm sy'n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng gwariant disgwyliedig yr awdurdod lleol (h.y. yr hyn y bydd angen ei wario i gyflawni ei swyddogaethau, arian grant y bydd yn rhaid ei ad-dalu i Weinidogion Cymru, arian i’w ddyrannu i gronfeydd wrth gefn) a’i incwm disgwyliedig (h.y. yr arian y mae'r awdurdod yn disgwyl ei gael y flwyddyn honno, yn amodol ar rai eithriadau).
Mae adran 52B yn darparu bod yn rhaid iddynt lunio set o egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu a yw gofynion y gyllideb yn ormodol. Mae hefyd yn darparu bod yn rhaid i'r egwyddorion hyn (o leiaf) gynnwys cymhariaeth rhwng gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn dan sylw a’r gofynion ar gyfer blwyddyn gynharach.
Mae adran 52C yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad sy'n pennu “swm tybiannol” ar gyfer cyllideb awdurdod lleol, i'w ddefnyddio fel sail i gymharu’r flwyddyn dan sylw ac unrhyw flwyddyn flaenorol. Gall Gweinidogion Cymru bennu symiau tybiannol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft os yw swyddogaeth neu ffin wedi newid – a thrwy hynny, gellir gwneud cymhariaeth ddilys â gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn dan sylw. Gellir ei ddefnyddio hefyd i bennu swm tybiannol os na bennwyd gofynion y gyllideb ar gyfer blwyddyn gynharach.
Yn dilyn penderfyniad a wnaed drwy ddefnyddio'r egwyddorion sy'n ofynnol o dan adran 52B, os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod y swm a bennir gan awdurdod fel gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn yn ormodol, mae adran 52D yn galluogi Gweinidogion Cymru i “ddynodi” neu “enwebu” yr awdurdod lleol hwnnw.
O dan adran 52E, os caiff awdurdod lleol ei ddynodi, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod o’r uchafswm y maent yn cynnig y dylai ei gyfrifo fel gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn, a phennu'r uchafswm y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig y gallai'r awdurdod ei gyfrifo fel ei ofynion ar gyfer y flwyddyn heb i’r swm hwnnw fod yn ormodol.
Yna, gall yr awdurdod lleol naill ai:
§ dderbyn yr uchafswm dynodedig a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru; neu
§ herio penderfyniad Gweinidogion Cymru.
Os na fydd yr awdurdod lleol yn llwyddo i herio'r uchafswm, gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi gorchymyn gorfodol i'r awdurdod lleol i sicrhau bod yr awdurdod yn cydymffurfio.
O dan adran 52L, os caiff awdurdod lleol ei enwebu, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod o'r swm y byddent wedi’i gynnig fel targed ar gyfer gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn dan sylw pe bai’r awdurdod yn awdurdod dynodedig.
Ar ôl i awdurdod lleol gael ei enwebu, gall Gweinidogion Cymru benderfynu:
§ dynodi’r awdurdod (gan ddilyn y weithdrefn yn adran 52E a amlinellir uchod); neu
§ benderfynu ar y swm y maent yn cynnig y dylai’r awdurdod ei gyfrifo’n swm tybiannol yng nghyd-destun gofynion ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn.
Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i awdurdod lleol eu bod yn cynnig swm arfaethedig, mae gan yr awdurdod 21 diwrnod i naill ai:
§ derbyn y swm a gynigiwyd gan Weinidogion Cymru; neu
§ herio’r swm a gynigiwyd a gofyn i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad.
Os caiff y swm a gynigir ei herio gan yr awdurdod lleol a bod y rhesymau a roddwyd dros yr her yn cael eu derbyn, gall Gweinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad
Er nad yw'r darpariaethau ym Mhennod IVA o Ddeddf 1992 yn sôn yn benodol am y dreth gyngor, teitl y bennod sy’n ymdrin â nhw yw “Limitations of Council Tax and Precepets”. Mae Papur Briffio Tŷ’r Cyffredin ar gapio’r dreth gyngor a gyhoeddwyd yn 2004 (Pennod III yn benodol) yn rhoi rhywfaint o gefndir ynghylch pam mae'r adran hon o’r ddeddfwriaeth yn rhoi'r pŵer i Weinidogion gapio'r dreth gyngor.
Mae Gweinidogion Cymru, yn y gorffennol, wedi amlinellu sut y gallent fod yn barod i ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i gyfyngu ar unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor os ystyrir bod y cynnydd yn ormodol. Er enghraifft, yn ei datganiad ar Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2014-15 (16 Hydref 2013), dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol ar y pryd (Lesley Griffiths AS) y canlynol:
Wrth alluogi’r Awdurdodau Lleol i benderfynu lefel y dreth gyngor yn lleol, rwy’n cynnig hyblygrwydd iddynt reoli eu cyllidebau. Nid yw’r awdurdodau cyfatebol yn Lloegr sy’n destun cyfyngiadau yn sgil rhewi’r dreth gyngor yn mwynhau’r un hyblygrwydd. Fodd bynnag, rwyf wedi datgan yn hollol glir fy mod yn fodlon defnyddio’r pwerau capio sydd ar gael imi os ceir cynnydd gormodol.
Cafwyd datganiad tebyg yn 2015 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, a hynny yn ei lythyr yn cyd-fynd â Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2015-16:
Rwyf yn barod i ddefnyddio'r pwerau capio sydd ar gael imi os byddaf yn credu bod y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn ormodol. Rwyf hefyd yn disgwyl i bob awdurdod gymryd yr holl ffrydiau ariannu i ystyriaeth wrth ystyried darparu gwasanaethau a phennu ei gyllideb ar gyfer y Dreth Gyngor.
Er hyn, yn ei ymateb i’r ddeiseb hon, safbwynt Ysgrifennydd presennol y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg yw bod gan Lywodraeth Cymru “berthynas â llywodraeth leol sy’n seiliedig ar gydweithredu a pharch” a’u bod:
o'r farn bod y gallu i bennu cyllidebau a'r dreth gyngor yn agwedd hanfodol ar ddemocratiaeth leol.
|
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |